Fe gafodd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2017 ei ysbrydoli i newid trywydd ei fywyd a dilyn ei freuddwyd o berfformio ac actio, yn rhannol gan un o weithiau Meic Povey.

Yn ôl Cedron Siôn, fe ddaeth yr epiffani wrth ymarfer monolog i’w pherfformio yn nadorchuddiad cerflun sefydlydd Cwmni Theatr Cymru, Wilbert Lloyd Roberts; yn Pontio, Bangor y llynedd.

Mae’r darn wedi’i seilio ar y cyfarfyddiad cyntaf rhwng Meic Povey a Wilbert Lloyd Roberts, a sut y daeth y cyfarwyddwr yn ddylanwad ar yr hogyn ifanc o Garn Dolbenmaen yn y 1960au trwy roi swydd actor iddo.

“Roedd y profiad o ddysgu’r fonolog bron fatha rhyw fewnwelediad i fy nyheadau fy hun,” meddai Cedron Siôn wrth golwg360, gan ychwanegu ei fod, fel hogyn o dref Porthmadog, yn teimlo rhyw agosrwydd at wreiddiau Meic Povey.

“Ro’n innau ar y pryd newydd wneud y penderfyniad i adael prifysgol Bangor, lle’r o’n i newydd ddechrau astudio gradd academaidd Cymraeg yno. Mi wnes i’r pnderfyniad pwysig a mawr i ddilyn trywydd actio a dechrau mynd i glyweliadau.

“Ac roedd dysgu’r fonolog yma jest ar drothwy mynd i’r clyweliadau yma… Roedd y fonolog ei hun yn sôn am sut ddaru Wilbert ddod fel rhyw ffigwr tadol ac yn fentor i Meic Povey, a sut oedd hynny wedi’i sbarduno fo i fynd yn ei flaen.”

“Mae angen rhywun i ddweud, ’dilyn dy freuddwyd’, ac i gael ffydd ynoch chi’ch hun,” meddai’r hogyn o Borthmadog sydd bellach yn astudio Drama yn Llundain.

“Roedd yna naws bersonol iawn [yn y darn], a theimlad mod i’n medru uniaethu gyda’r hyn oedd Meic Povey yn ei ddweud ar adegau. Roedd perfformio’r darn yn fraint.”