Fe fu Sharon Morgan yn gweithio â Meic Povey ar sawl rhaglen a ffilm gan gynnwys Rhandirmwyn, Mae’r Gelyn Oddi Mewn, Yr Heliwr a Reit Tu ôl i Ti.

Roedden nhw hefyd yn gymdogion ym Mhontcanna, lle’r oedden nhw’n aml yn cwrdd ac yn “dodi’r byd yn ei le”.  Bydd yn “golled anferth” i’r diwydiant creadigol, meddai’r actores.

“Roedd e’n ddyn annwyl, agored, cadarnhaol a llawn egni,” meddai wrth golwg360. “Yn ddoniol iawn ac yn llawn awch a brwdfrydedd am bob dim. Doedd e byth yn gwneud unrhyw beth ar ei hanner.

“Mae’n golled anferth i’r byd theatr, teledu a radio yng Nghymru yn y ddwy iaith,” meddai Sharon Morgan wedyn. “Colled fawr, ond cyfraniad enfawr. Mae e wedi gadael ni yn llawer rhy gynnar.”

Cynhyrchiol

Mae Sharon Morgan hefyd yn tynnu sylw at arfer Meic Povey o weithio’n galed a’i awydd i fod yn gynhyrchiol.

“Roedd e’n weithiwr caled ac yn ofnadwy o ddisgybledig,” meddai. “Roedd wedi gweithio mor galed ers dechrau ei yrfa. Ac roedd e prin yn cael gwyliau…

“Roedd e’n llawn syniadau, yn fwrlwm, yn gyfoes ac yn berthnasol. Roedd ei grefft yn anhygoel … Mae’n anodd rhestru’r holl waith wnaeth e.”