Mae llythyr gan y Blaid Lafur at deulu’r diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, yn codi cwestiynau am weithredoedd Prif Weinidog Cymru, meddai cyn-Weinidog yn ei lywodraeth.

Mae’n honni bod diwylliant o fwlian o fewn Llywodraeth Cymru wedi cael effaith ar iechyd Carl Sargeant, a laddodd ei hun fis yn ol.

Mae’r llythyr gan Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur, Iain McNicol, yn cadarnhau bod y blaid wedi rhoi’r gorau i ymchwiliad o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Carl Sargeant.

“Beth mae’r llythyr yn dweud yw, ‘doedd yna ddim cwynion ysgrifenedig am Carl Sargeant’,” meddai Leighton Andrews wrth golwg360.

“Ond dyw hi ddim yn glir i mi, ar sail beth, oedd y Blaid Lafur yn bwrw ymlaen [a mater Carl Sargeant]- neu ar sail beth wnaeth y Prif Weinidog [Carwyn Jones] gynnal cyfweliadau teledu ar y chweched o Dachwedd.

“Y cwestiwn yw, oedden nhw’n gwneud pethau i fyny wrth fynd yn eu blaenau?”

Dyddiaduron

Fe fydd Leighton Andrews yn cyflwyno deunydd i’r ymchwiliadau fydd yn cael eu cynnal yn sgil marwolaeth y diweddar Aelod Cynulliad.

Ac yn dilyn wythnosau o frwydro geiriol â Carwyn Jones, mae Leighton Andrews yn awgrymu y bydd ei ddyddiaduron personol – o’i gyfnod yn Weinidog – yn taflu goleuni ar y mater.

“Bydd deunydd o fy nyddiaduron yn cael eu cynnwys ymysg yr hyn fydd fy nghyfreithwyr yn cyflwyno [i’r ymchwiliadau],” meddai.

“Mae fy nyddiaduron yn gwrth-ddweud ambell beth y dywedodd y Prif Weinidog y ddoe,” meddai o bosib yn cyfeirio at sylwadau Carwyn Jones am gwynion honedig.

“Y cymhlethdod yw hyn: mae yna bobol sydd yn gwybod y gwir – mae rhai yn gwasanaethu yn y Llywodraeth ac yn methu â lleisio’u barn.”