Mae pwyllgor meddygon wedi codi pryderon am gynllun newydd i greu canolfannau iechyd ledled Cymru, gan ddadlau bod clinigwyr lleol wedi’u hanwybyddu.

Nod Llywodraeth Cymru yw buddsoddi £68m er mwyn sefydlu 19 o ganolfannau iechyd a gofal integredig newydd ledled Gymru erbyn 2021.

Trwy’r buddsoddiad yma, mae’r Llywodraeth yn gobeithio gwella gallu pobol i gael gafael ar wasanaethau yn agosach i’w cartref.

Er bod Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru (GPC Cymru) yn croesawu’r cynllun mewn egwyddor, maen nhw’n “pryderu” bod aelodau Pwyllgorau Meddygol Lleol (LMCau) wedi’u hesgeuluso o’r broses ddylunio.

Barn leol

“Mae’n ein pryderu ni bod yr ymateb gan aelodau LMC yn awgrymu nad ydyn nhw wedi cael eu cynnwys yn y broses o ddylunio’r cynllun,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Dr Charlotte Jones.

“Mae’n hanfodol bod clinigwyr lleol, sydd yn deall anghenion y cymunedau lleol, yn cael eu cynnwys mewn prosesau dylunio er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn y gwasanaethau maen nhw’n haeddu.”

“Rhaid datblygu strategaethau gwydn, gan gynnwys LMCau yn y broses.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.