Mae cyn-Brif Weithredwr y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru, Tracy Myhill, wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae hi’n olynu Alex Howells, y Prif Weithredwr dros dro a phrif weithredwr cyntaf Addysg a Gwella Iechyd Cymru, corff a gafodd ei sefydlu’n gynharach eleni.

Daeth y cyhoeddiad mewn datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Mae gan Tracy Myhill dros 30 o flynyddoedd o brofiad ym maes iechyd ac mae hi wedi gwyrdroi’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru fel ei fod ymhlith y gwasanaethau gorau yng ngwledydd Prydain.

Bydd y ddau ohonyn nhw’n dechrau yn eu swyddi newydd yn y Flwyddyn Newydd, pan fydd y broses o chwilio am Brif Weithredwr newydd ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans yn dechrau.