Ned Thomas, yr awdur, newyddiadurwr, academydd a chyhoeddwr, sydd wedi’i ddewis i arwain Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth fis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae’r anrhydedd yn cael ei rhoi i bobol flaenllaw’r dref, ac mae Ned Thomas yn cael ei gydnabod am ei ymdrechion dros yr iaith Gymraeg a sicrhau bod y Cymry’n dysgu gan wledydd tramor, a bod gwledydd tramor yn dysgu gan Gymru.

Mae’n dilyn y diddanwr Glan Davies, yr artist Mary Lloyd-Davies, yr awdur a chyn-brifathro Gerald Morgan, sylfaenwyr Siop y Pethe Megan a Gwilym Tudur; a’r cerddor, awdur a chynhyrchydd teledu, Dr Meredydd Evans.

Cefndir

Cafodd Ned Thomas ei eni yn Lloegr i rieni Cymraeg, ac fe gafodd ei addysg yng Nghymru, Lloegr a’r Almaen, lle’r oedd ei dad yn farnwr yn llysoedd dedfrydu’r Natsïaid.

Treuliodd gyfnod yn Athro Llenyddiaeth Saesneg yn Salamanca yn Sbaen yng nghyfnod Franco, ac yn Athro Cyfnewid ym Mosgow yn y cyfnod Sofietaidd. Mae’r ddau gyfnod wedi’u cofnodi ganddo yn ei gyfrol Bydoedd, a gafodd ei enwi’n Llyfr y Flwyddyn yn 2011.

Yn Sbaen y daeth i arbenigo ym maes mudiadau cenedlaethol Catalwnia a Gwlad y Basg, ac fe fu’n weithgar ers hynny ym maes ieithoedd lleiafrifol Ewrop, gan sefydlu Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dychwelodd i Gymru wedyn i ddarlithio yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth, lle sefydlodd gylchgrawn Planet. Yn ddiweddarach, fe fu’n Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.

Y parêd

Bydd Parêd Gŵyl Dewi 2018 yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Mawrth 3, gan ddechrau ger Cloc y Dre’ a mynd ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Popty a gorffen yn Llys y Brenin.

Fe fydd Ned Thomas yn derbyn rhodd o ffon gerdded wedi’i gerfio gan Hywel Evans o Gapel Dewi, a hynny gan ddilyn traddodiad o Wlad y Basg.