Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi gwadu ei fod wedi derbyn cwynion gan y cyn-Weinidog Llafur, Leighton Andrews, am ymddygiad staff Llywodraeth Cymru.

Mae Leighton Andrews eisoes wedi dweud bod awyrgylch “wenwynig” yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, gyda rhai aelodau yn euog o “fân fwlio”.

Un o dargedau’r bwlio yma, meddai, oedd y diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant. Ei ddadl ef yw bod hyn wedi cael effaith ar iechyd meddwl Carl Sargeant.

“Na”

Daeth sylwadau’r Prif Weinidog prynhawn dydd Mawrth (Rhagfyr 5) gan ymateb i gwestiwn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog.

“A wnaeth Leighton Andrews wneud cwyn o unrhyw fath yn 2014 am ymddygiad aelodau staff Llywodraeth Cymru neu yn eich swyddfa?” meddai Andrew RT Davies.

“Na” oedd ateb Carwyn Jones, yn blwmp ac yn blaen.

“Wyneb i wyneb”

Mae Leighton Andrews wedi ymateb i sylw Carwyn Jones ar ffurf neges Twitter.

“Ym mis Tachwedd 2014, dywedais wrth y Prif Weinidog, wyneb i wyneb, fy mod yn credu bod y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig wedi’i dorri,” meddai.

“Gofynnais iddo gynnal ymchwiliad ffurfiol. Dywedodd y byddai’n gwneud hynny.”