Mae dyn, 21, wedi cael ei arestio ar Gampws Prifysgol Aberystwyth ar amheuaeth o fod ag arf yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Cafodd y dyn ei arestio am 2.05 prynhawn dydd Mawrth (5 Rhagfyr) yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad yn Adeilad Llandinam.

Bu’n rhaid cau un o adeiladau’r brifysgol ond bellach mae wedi ei ailagor.

Cafodd neb eu bygwth ac ni chafodd unrhyw un niwed. Bellach mae’r dyn yn y ddalfa. Mae golwg360 yn deall bod y dyn a chyllell yn ei feddiant.

Llygad dyst

Roedd y fyfyrwraig Ruth Morgan yn yr ardal pan gafodd y dyn ei arestio a dywedodd bod “llawer o heddlu a cheir o gwmpas y lle.”

“Gwnes i ddal bws i’r campws a chael fy dropio off ar bwys [Caffi] Tamed [Da],” meddai wrth golwg360. “Ac wedyn wnes i sylwi bod llawer o heddlu a cheir o gwmpas y lle. Cerddais lawr i [adeilad] Edward Llwyd lle oedd fy narlith.

“Ac mi roedden nhw’n blocio pobol rhag mynd i Landinam … Roedd heddlu ar draws y lle, ac roedd y myfyrwyr yn aros mas … Pan gerddais allan [o Edward Llwyd], roedd rhywun yn cael ei handcyffio – oedd e’n gwisgo hood.”

“[Ar gyfryngau cymdeithasol] roedd rhywun yn dweud bod cyllell o gwmpas y lle yn Llandinam, felly dw i’n cymryd mai dyna beth oedd e.”

Gwnaeth golwg360 ofyn i Brifysgol Aberystwyth am ymateb ond dywedodd llefarydd mai’r heddlu oedd yn delio gyda’r mater.