Mae’r arolwg diweddara sy’n mesur llwyddiant twristiaeth yng Nghymru yn nodi fod 2017 wedi bod yn “flwyddyn dda” i’r diwydiant.

Yn ôl canfyddiadau’r Baromedr Diwydiant Twristiaeth gan Lywodraeth Cymru mae 42% o fusnesau Cymru wedi cael mwy o ymwelwyr yn 2017 o gymharu â 2016.

Mae’r baromedr yn cynnwys sylwadau tua 800 o fusnesau dros y chwarter diwethaf, ac mae 54% o’r busnesau sy’n ymwneud â bwyd yn nodi iddynt fod yn brysurach eleni nag y llynedd.

‘Addawol iawn’

Mae 46% o’r busnesau yn nodi mai marchnata eu hunain sydd wedi helpu i godi nifer yr ymwelwyr, ac mae 39% yn dweud iddynt gael mwy o ymwelwyr o wledydd eraill Prydain yn ystod 2017 o gymharu â’r blynyddoedd diwethaf.

“Rwy’n hynod falch o gael y portffolio twristiaeth ar adeg pan fo pethau’n edrych yn addawol iawn ar gyfer 2017,” meddai Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru.

“Er fy mod i’n gwbl ymwybodol o’r farchnad hynod gystadleuol rydyn ni’n gweithredu o’i mewn, mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref ac mae’r ffigurau hyn yn brawf o ba mor dda mae’r diwydiant wedi bod yn perfformio.”