Mae’n “gyfnod cyffrous” i Gaernarfon wedi i griw o bobol leol fwrw eu targed ariannol a chodi £135,000 tuag at brynu un o adeiladau’r dref.

“Ry’n ni wedi derbyn gymaint o gefnogaeth,” meddai Menna Machreth wrth golwg360, un o aelodau menter Llety Arall sydd yn y broses o brynu’r adeilad ar Stryd y Plas.

Y bwriad yw troi’r adeilad yn llety i ymwelwyr sydd am ddysgu’r Gymraeg neu sydd am brofi’r diwylliant Cymreig.

Ac mae’r grŵp yn gobeithio cwblhau pryniant erbyn y Nadolig gan agor tair ystafell erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.

‘Menter gymunedol’

Mewn ychydig oriau, mae’r fenter wedi llwyddo i godi mwy na deng mil o bunnoedd drwy gyfranddaliadau gan y cyhoedd.

Esboniodd Selwyn Jones, aelod arall o’r bwrdd, mai £120,000 oedd eu targed ddoe, ond mi fydd y ffigwr newydd yn eu galluogi i ddechrau ar y gwaith “yn syth bin,” meddai Menna Machreth.

Mae’r fenter wedi sicrhau grant o £128,000 drwy Gronfa Les Cymunedol Llywodraeth Cymru ym mis Awst eleni hefyd.

Ond mae’n bwysig mai “menter gymunedol” yw hi, meddai Menna Machreth gan esbonio fod pobol yn “aelodau o’r cwmni a bod perchnogaeth gymunedol i’r adeilad.”

‘Cydio yn nychymyg’

“Dw i’n meddwl fod y syniad wedi cydio yn nychymyg pobol oherwydd bod gan Gaernarfon gymaint i’w gynnig,” meddai Menna Machreth gan gyfeirio at yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.

“Ry’n ni’n gweld y Gymraeg fel ased a rhywbeth sy’n gallu tynnu pobol i’r ardal.”

Mae’r cynllun yn cynnwys creu siop ar lawr isa’r adeilad ynghyd ag amrywiaeth o ystafelloedd aros ac ystafell gyfarfod.