Mae Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried deiseb heddiw sy’n galw am atal trwydded forol i gwmni sydd am garthu mwd o safle atomfa newydd Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf i arfordir de Cymru.

Mae mwy na 7,000 o bobol wedi arwyddo deiseb gan Tim Deere-Jones, Ymgynghorydd Llygredd Morol.

Mae’n esbonio fod y cynlluniau’n cynnwys symud tua 300,000 o dunelli “o ddeunydd a halogwyd yn ymbelydrol,” o wely’r môr yng Ngwlad yr Haf i arfordir Bro Morgannwg yn ystod y gwaith o godi atomfa Hinkley Point C.

Mae’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded i’r cwmni NNB Genco sy’n rhan o EDF Energy.

Mae EDF Energy yn mynnu nad yw’r mwd yn ymbelydrol a’u bod wedi cynnal profion trylwyr.

Fe fydd y pwyllgor yn clywed gan gynrychiolwyr o’r cwmni heddiw yn ogystal ag ymgyrchwyr yn erbyn y cynllun.

‘Asesiad llawn’

Mae’r ddeiseb yn galw am gynnal rhagor o brofion ar y mwd hefyd er mwyn ystyried ei effaith amgylcheddol a radiolegol.

Yn ôl geiriad y ddeiseb mae angen cynnal “asesiad llawn o’r effaith Amgylcheddol, dadansoddiad radiolegol cyflawn a samplu craidd yn cael eu cynnal o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, a bod ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad llawn o dystiolaeth annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cynnal cyn rhoi caniatâd i ollwng unrhyw waddodion o Hinkley.”