Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau fod gwybodaeth wedi’i rhyddhau am ddiswyddiad Carl Sargeant cyn iddo glywed amdanyn nhw ei hun.

Yn ei flog mae Leighton Andrews, cyn-Weinidog gyda Llywodraeth Cymru, yn honni fod “pobol o’r tu allan” yn gwybod o flaen llaw am y bwriad i adrefnu’r cabinet ar Dachwedd 3 gan ddiswyddo Carl Sargeant.

“Er nad oes tystiolaeth wedi dod i’r amlwg i gefnogi’r honiadau hyn, mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i‘r Ysgrifennydd Parhaol i ymchwilio i’r mater,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Ymchwiliad

Mi gafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru ar Dachwedd 3 yn sgil honiadau o aflonyddu rhywiol, ond mi ddywedodd ar y pryd nad oedd wedi cael manylion am y cyhuddiadau.

Ddyddiau’n ddiweddarach, ar Dachwedd 7, cafwyd hyd iddo’n farw yn ei gartref yng Nghei Conna.

Mae Leighton Andrews yn ychwanegu y gallai Aelod Cynulliad Llafur, newyddiadurwr ac Aelod Seneddol Llafur fod yn gwybod am y diswyddiad cyn Carl Sargeant ei hun.

“Dylai’r Ysgrifennydd Parhaol gynnal ymchwiliad llawn i’r gollwng gwybodaeth hyn,” meddai yn ei flog.

“Mae rhywun, neu ryw rai, wedi gollwng y newyddion am ddiswyddiad Carl Sargeant. Dydi hyn ddim wedi digwydd erioed o’r blaen wrth adrefnu Llywodraeth Cymru.”