Tenor o ogledd Sir Benfro yw’r diweddaraf i arwyddo cytundeb gyda’r label Decca a bydd yn rhyddhau ei albwm gyntaf gyda’r cwmni yn 2018.

Mae Trystan Llŷr Griffiths yn dilyn yn ôl traed Katherine Jenkins a Bryn Terfel wrth arwyddo gyda’r label hwn ac mae’n esbonio i’w berthynas gyda Decca ddechrau yn 2012 pan gafodd ei enwi yn ‘Llais Cymru’ yn dilyn cyfres deledu ar S4C.

Mae’n ychwanegu fod cefnogaeth y cwmni yn “gymorth mawr iddo” ac un o’r pethau y mae’n edrych ymlaen atyn nhw yw “cynrychioli Cymru a’r iaith Gymraeg.”

Rygbi a gwaith coed

Mae’r tenor sy’n wreiddiol o Glunderwen yn esbonio nad oedd wedi dychmygu dilyn gyrfa yn ganwr proffesiynol am mai gwaith coed a rygbi oedd yn mynd â’i fryd yn yr ysgol uwchradd.

“Un o’r prif resymau yr es i nôl i’r chweched oedd i wneud gwaith coed,” meddai. “Do’n i ddim wedi meddwl am ganu o gwbl, ond mae’n rhaid bod canu mewn eisteddfodau lleol wedi bod yn ddylanwad arna i.”

Ac mae’n cydnabod cyfraniad ei fam-gu fyddai’n “ymarfer yn gyson” gydag e yn ogystal â’i athrawon cerdd wnaeth ei annog i astudio yn Academi Gerddoriaeth Frenhinol Llundain, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Caerdydd ynghyd â hyfforddi yn Stiwdio Opera Genedlaethol Llundain.

Mae’n gobeithio parhau i weithio yn y byd opera dros y blynyddoedd nesaf, ac mae newydd ddychwelyd o’r Swistir ar ôl treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn canu yn Nhŷ Opera Zürich.