Fe fydd nofiwr, a fu’n cymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad, yn sefyll ei brawf y flwyddyn nesaf ar gyhuddiad o dreisio dwy ddynes.

Fe ymddangosodd Otto Putland, 24, yn Llys y Goron Caerdydd heddiw. Mae’n gwadu’r ddau gyhuddiad yn ei erbyn.

Honnir ei fod wedi treisio un ddynes ym mis Ebrill 2015, a’r ddynes arall ym mis Gorffennaf 2015.

Roedd Otto Putland, sy’n dod o Dinedor ger Henffordd, wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.

Dywedodd y barnwr Jeremy Jenkins y byddai’r achos yn dechrau ar 3 Ebrill 2018.

Cafodd Otto Putland ei ryddhau ar fechnïaeth.