Mae archif o ddeunydd gan y llenor, Menna Elfyn, wedi’i throsglwyddo a’i diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Ymysg y deunydd sydd bellach yng nghromgelloedd y llyfrgell mae llyfrau nodiadau, adolygiadau, a drafftiau o sgriptiau gan y llenor.

Hefyd mae gohebiaeth rhyngddi hi â nifer o feirdd a llenorion amlycaf Cymru – gan gynnwys R. S. Thomas, Emyr Humphreys ac Iwan Llwyd – yn y casgliad.

Yn ôl y Llyfrgell Genedlaethol mae’r archif yn “adlewyrchu nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol ein cyfnod diweddar yng Nghymru” o ymgyrchoedd dros yr iaith i apartheid.