Bydd isetholiad ar gyfer etholaeth y diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant, yn cael ei gynnal ar Chwefror 6, 2018.

Mae’n debyg mai’r diwrnod yma yw’r diwrnod olaf posib gall yr isetholiad gael ei gynnal ac yn ôl Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, cafodd “sensitifrwydd” amgylchiadau eu hystyried wrth ddewis y diwrnod.

Mae hi hefyd yn credu mai’r dyddiad hwn sy’n rhoi’r cyfle gorau i’r holl bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr baratoi.

Bydd yr etholiad yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth yn hytrach na dydd Iau sef y dyddiad confensiynol ar gyfer cynnal etholiadau.

Alun a Glannau Dyfrdwy

Mi wnaeth Carl Sargeant gynrychioli etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy o 2003 hyd at ei farwolaeth ym mis Tachwedd eleni.

Cafodd ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Conna ar Dachwedd 7, pedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o’i rôl yn Ysgrifennydd Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru.