Mae menter gymunedol yng Nghaernarfon yn gobeithio codi mwy na £10,000 o fewn ychydig oriau i brynu hen adeilad a’i droi’n llety sy’n dathlu Cymreictod y dref.

Hyd yn hyn mae menter Llety Arall wedi codi £106,000 drwy gyfranddaliadau gan y cyhoedd, a’u targed ydy codi £120,000 erbyn hanner nos heno.

Maen nhw eisoes wedi sicrhau grant o £128,000 drwy Gronfa Les Cymunedol Llywodraeth Cymru ym mis Awst eleni.

Ac mae’r cynnig i brynu’r adeilad ar Stryd y Plas “yn nwylo’r cyfreithwyr ar hyn o bryd,” meddai Selwyn Jones wth golwg360.

Tudur Owen, Yws Gwynedd a mwy…

“Ni am i’r dyfodol fod yn ein dwylo ni fel bod gynnon ni reolaeth dros yr hyn fydd yn digwydd i’r adeilad,” meddai Selwyn Jones un o drefnwyr yr ymgyrch.

Mae’n esbonio fod tua 200 o bobol wedi cyfrannu ac mae’n gobeithio y bydd enwau gan gynnwys Tudur Owen, Yws Gwynedd ac Y Bandana yn denu mwy i gyfrannu.

“Mae nifer o fusnesau wedi buddsoddi yn y fenter, felly mae pobol yn croesawu bod adeilad fu’n segur yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.”

Llety Arall

Bwriad y cynllun ‘Llety Arall’ yw creu amrywiaeth o stafelloedd aros ynghanol tref Caernarfon gan ganolbwyntio ar ddenu teuluoedd o ddysgwyr ac eraill sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg.

Mae hawl cynllunio eisoes wedi’i gael i newid defnydd hen siop offer dringo yn Stryd y Plas ac fe fydd yr arian yn golygu bod cwmni’n gallu prynu’r adeilad a bwrw ati gyda cham cynta’r gwaith addasu.

Fe fyddai hynny’n cynnwys creu siop ar y llawr isa’ er mwyn dechrau dod ag incwm rhent i mewn i’r fenter – yn y pen draw fe fydd amrywiaeth o stafelloedd aros ac ystafell gyfarfod at ddefnydd grwpiau o ymwelwyr a grwpiau cymunedol.

Mae Selwyn Jones yn cymharu’r fenter ag ymgyrch Tafarn Sinc yn Sir Benfro gan ddweud fod “tipyn o drafod a rhannu syniadau” rhwng y ddwy gymuned.