Bydd y lleuad lawn fwyaf llachar ers 1948 i’w gweld dros Gymru heno.

Mae disgwyl iddi ymddangos 7% yn fwy o faint a 15% yn fwy llachar nag arfer, yn ôl arbenigwyr.

Mae’r lleuad lawn ar ei mwyaf llachar pan fydd yn symud mor agos ag y gall at y Ddaear.

Bydd hi ryw 222,761 o filltiroedd i ffwrdd o’r Ddaear heno – oddeutu 15,000 o filltiroedd yn nes nag arfer.

Fydd hi ddim i’w gweld fel hyn dros Gymru eto tan 2034.

Yr amser gorau i’w gweld yw 4.47pm.