Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod ar dir ysgol uwchradd ym Mhontypridd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Uwchradd Hawthorn am oddeutu 7.30 y bore ma.

Mae ymchwiliad ar y gweill, a does dim mynediad i safle’r ysgol ar hyn o bryd.