Does dim modd i Gymru na’r Alban dderbyn telerau Brexit fel ag y maen nhw ar hyn o bryd, yn ôl Ysgrifennydd Brexit yr Alban, Mike Russell.

Fe fyddai’r Mesur Brexit presennol yn tanseilio datganoli, gan achosi cryn niwed i Gymru a’r Alban, meddai.

Mae disgwyl i welliannau a fyddai’n lleihau effaith telerau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y gwledydd datganoledig gael eu trafod yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun.

‘Cipio grym’

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud mai ymgais yw Mesur Brexit i “gipio grym” oddi ar eu gwledydd datganoledig a’i ddwyn yn ôl o Frwsel i San Steffan.

Ac maen nhw wedi galw am roi cyfrifoldeb am feysydd datganoledig cyfreithiau Ewrop iddyn nhw yn hytrach nag i Lundain.

Oni bai bod hyn yn digwydd, yn ôl Mike Russell, ni fyddai’r naill wlad na’r llall yn rhoi’r sêl bendith sydd ei angen er mwyn symud y trafodaethau yn eu blaenau.

‘Tanseilio datganoli’

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Scotland: “Rydyn ni’n gwneud cynnydd ond mae cryn dipyn bellach yn dibynnu ar newid y Mesur Ymadael. Dw i’n credu bod Llywodraeth Prydain yn gwybod hynny.”

Ychwanegodd ei bod yn “hanfodol” fod newidiadau’n cael eu cyflwyno “oherwydd ni allwn ni na Llywodraeth Cymru dderbyn y Mesur fel ag y mae oherwydd y bydd yn tanseilio datganoli ac yn achosi cryn newid i’r Alban ac i Gymru a Gogledd Iwerddon.”

Ond fe wrthododd ddweud a fyddai’n fodlon derbyn y Mesur yn ei gyfanrwydd pe bai’r gwelliannau’n cael eu derbyn.