Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion i wrthdrawiad angheuol yn Wrecsam.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Holt toc cyn 9.30 y bore ma.
Roedd y ffordd ynghau rhwng Ffordd Archers a Hillcrest, ond mae wedi’i hagor unwaith eto erbyn hyn.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.