Fe fydd rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi ei swyddfeydd tramor newydd pan fyddan nhw’n agor y flwyddyn nesaf, yn ôl cyn-weinidog Llafur Prydain.

Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf y bydd pump o swyddfeydd yn cael eu hagor y flwyddyn nesaf, a’r rheiny wedi’u lleoli ym Mharis, Düsseldorf, Berlin, Montreal a Doha – lleoliadau sydd â “photensial mawr ar gyfer rhagor o allforion”, yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates.

Mae’r Arglwydd Digby Jones wedi dweud wrth raglen Sunday Politics Wales  y BBC fod y swyddfeydd “gystal â’r mewnbwn sydd ganddyn nhw a’r cynnyrch y mae modd iddyn nhw ei werthu”.

Daw’r sylwadau ar ôl i Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price rybuddio fod angen i “siop ffenest” Cymru ddangos y cynnyrch y bydd gwledydd eraill yn dymuno ei brynu.

Dywedodd yr Arglwydd Digby Jones ei fod yn “gobeithio” y byddai’r swyddfeydd yn llwyddo yn eu gwaith, ond fe rybuddiodd rhag dod yn hunanfoddhaus.

“Pan fo swyddfa, fe fydd rhai pobol yn ôl yn y pencadlys yn rhoi’r gorau i drio oherwydd byddan nhw’n meddwl ei fod yn cael ei wneud gan y swyddfa. Allech chi ddim bod yn fwy anghywir.

“Mae’r swyddfa’n gatalydd da – mae’n llwybr da, ond all hi ddim ei wneud e ar ei phen ei hun.”

Perfformiad

Mae perfformiad swyddfeydd tramor presennol Llywodraeth Cymru bellach yn cael ei gwestiynu.

 

 

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi tynnu sylw at ffigurau sy’n dangos cwymp mewn allforion i wledydd lle mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio gwerth yr ystadegau, gan ddweud y bydd ffyrdd newydd o fesur perfformiad yn cael eu cyflwyno.