Mae Cynghorydd Sir o Geredigion wedi tynnu sylw at bryderon am effaith cynlluniau i gau ysgolion yn ne’r sir.

Cytunodd Cabinet y Cyngor ddydd Mawrth (Tachwedd 28) y dylai tri opsiwn gael eu hystyried ar gyfer tair ysgol yn ardal Beulah.

Ysgol Beulah, Ysgol Trewen ac Ysgol Cenarth yw’r ysgolion fydd yn cael eu heffeithio; ac mae’n bosib y bydd un, dau neu bob un o’r ysgolion yn cael eu cau er mwyn “moderneiddio addysg” yr ardal.

“[Mae sôn] bydd hyn yn cael lot o effaith ar y pentrefi cyfagos, wrth gau tair ysgol,” meddai Cynghorydd ward Aberporth, Gethin Davies, wrth golwg360.

“Mae e’ yn drist, does dim amau hynny. Yr holl ysgolion bach yma yn cau. Mae hefyd yn cael llawer o effaith ar rieni oherwydd bydd yn rhaid iddyn nhw drafaelu yn bellach.”

Ysgol newydd?

Un o’r opsiynau fydd yn cael eu hystyried gan Banel Adolygu Ysgolion, fydd diddymu’r tair ysgol a chreu ysgol ardal newydd ar un o’r safleoedd hynny.

O’r tair ysgol Ysgol Beulah sydd â’r nifer lleiaf o ddisgyblion a’r gost uchaf fesul disgybl – 29 disgybl â chost £5,569 yr un yn ôl ystadegau 2016.