Yn dilyn y cyhoeddiad bod Natwest yn bwriadu cau 20 o ganghennau yng Nghymru, gan gynnwys dwy yng Ngheredigion, mae Plaid Cymru yn galw am rwydwaith o fanciau cymunedol ledled y wlad.

Yn ôl Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, mae angen sefydlu banc cyhoeddus yng Nghymru er mwyn creu system o fanciau mewn cymunedau.

Bydd y ddwy gangen yng Ngheredigion yn cau erbyn haf 2018 – Aberteifi ar 30 Mai a Llanbedr Pont Steffan ar 12 Mehefin.

Disgrifiodd Ben Lake y cyhoeddiad fel “ergyd fawr” i gymunedau cefn gwlad ac mae wedi gofyn am gyfarfod â Phrif Weithredwr y cwmni am gyfarfod.

Galw am system debyg i’r Almaen

“Yn y cyfnod hwn o gyni ariannol, mae ein cymunedau gwledig yn colli gwasanaethau bancio ar gyflymder aruthrol: daw’r cyhoeddiad mwyaf diweddar hyn ar ôl gweld banciau eraill yn cau yn Aberaeron, a threfi megis Llandysul a Thregaron yn colli pob un o’u banciau,” meddai.

“Mae’r banciau masnachol hyn yn cefnu fwyfwy ar gymunedau gwledig ar draws Ceredigion; llai na degawd ar ôl i drethdalwyr achub eu crwyn pan oedd yr argyfwng ariannol ar ei gwaethaf, maent nawr yn bygwth tanseilio sylfaen ariannol yr economi leol gyfan.

“Wrth i’r banciau mawr ddiflannu o’n hardaloedd gwledig, mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod angen dybryd i ni gyflwyno model newydd o fancio – model sy’n gwneud gwell ymgais i ymrwymo i gefnogi cymunedau lleol – model tebyg i’r system o fanciau cymunedol yn yr Almaen.

“Dwi wedi galw am gyfarfod gyda Phrif Weithredwr banc NatWest i drafod pam y mae banciau’n parhau i gefnu ar gymunedau gwledig, a byddaf yn ei annog i ailystyried y penderfyniad hwn.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn llafar ac yn gyson wrth alw ar fanciau masnachol i gadw presenoldeb o rwydwaith o ganghennau cryf ledled Cymru i wasanaethau busnesau, cwsmeriaid a chymunedau yn effeithiol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

 “Mae banciau yn chwarae rhan bwysig ym mywyd pob cymuned, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae angen i fanciau ystyried eu cyfrifoldebau i’r cymunedau hyn wrth ad-drefnu eu rhwydwaith.

 “Rydym wedi sefydlu Banc Datblygu newydd i Gymru gyda gorchwyl i gefnogi busnesau ledled y wlad a byddwn yn ystyried sut gall y Banc ddatblygu ei rôl dros y blynyddoedd nesaf.”