Bydd swyddogion Heddlu Dyfed Powys yn cynnal mwy o batrolau yn ystod y Nadolig er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd, a chynnig sicrwydd a hyder yn eu cymunedau er mwyn helpu pobl i deimlo’n ddiogel.
“Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n heddlu’n cymunedau ac yn heddlu ar gyfer ein cymunedau, a byddwn ni’n gwneud safiad cryf yn erbyn y rhai sy’n achosi diflastod i eraill yr adeg hon o’r flwyddyn,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Pam Kelly.
Bydd Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ‘Ymgyrch SANTA’ , er mwyn “ atgoffa pobl am yr hyn y gallant wneud i gadw’u hunain, eu hanwyliaid a’u heiddo’n ddiogel”.
“Mae ein ffigurau trosedd yn dangos mai’r drosedd sy’n cynyddu fwyaf adeg y Nadolig yw ymosod cyffredin,” meddai Pam Kelly.
“Gwyddom fod hyn yn aml o ganlyniad i ormod o alcohol. Er nad ydyn ni am ddifethaf hwyl pobl adeg y Nadolig, rhan o’n dyletswydd plismona trwy Ymgyrch SANTA yw atgoffa pobl am ganlyniadau cyflawni’r math hwn o drosedd.”
Yn ôl yr heddlu mae canlyniadau ymddwyn yn dreisgar yn cynnwys:
- niweidio dioddefydd yn barhaol, neu hyd yn oed ei ladd;
- cofnod troseddol neu ddedfryd o garchar, a allai effeithio ar gynlluniau gyrfa neu deithio yn y dyfodol, a chael eich gwahardd o dafarndai, barrau a chlybiau.
“Y peth gorau i’w wneud pan fyddwch chi’n wynebu gwrthdaro neu drais yw cerdded i ffwrdd,” meddai Pam Kelly.