Fe fydd Comisiynbydd Plant Cymru’n cynnal adolygiad swyddogol o ddiffyg ymateb Llywodraeth Cymru i’w galwad am fwy o wybodaeth a rheolaeth ar blant sy’n cael eu haddysgu yn eu cartrefi.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r Llywodraeth wedi dweud y byddan nhw’n ystyried galwad Sally Holland am gofrestr o blant sy’n cael eu cadw o’r ysgol.

Ond does dim wedi digwydd, meddai, ac fe fydd yn cynnal adolygiad o’u hymateb gan gyhoeddi manylion yn y flwyddyn newydd.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi galw am i blant gael yr hawl i siarad gyda gweithwyr proffesiynol os byddan nhw eisiau hynny ac i swyddogion awdurdodau lleol gael eu gweld nhw.

‘Angenrheidiol’

“Mae’n gymesur ac yn angenrheidiol bod pob plentyn yng Nghymru yn cael gwrandawiad ac yn cael eu clywed,” meddai Sally Holland.

“Mae’n gymesur ac yn angenrheidiol bod pob plentyn yng Nghymru yn cael lefel weddus o addysg; ac mae’n gymesur ac yn angenrheidiol bod Llywodraeth Cymru yn amddiffyn holl blant Cymru.

“Mae eu hymateb yn fy ngadael heb ddewis ond ystyried defnyddio fy mhwerau statudol i adolygu camau gweithredu’r Llywodraeth.

Derbyn argymhellion

Fe ddywedodd y Llywodraeth ddoe eu bod yn derbyn pob un ond un o argymhellion y Comisiynydd, yn rhannol neu’n llwyr.

Yr eithriad yw cynnig ar gyfer cynllun peilot i wneud yn siwr nad yw costau gofal plant yn cadw rhieni rhag gwaith.