Fe fydd angladd y cyn-Weinidog Llywodraeth, Carl Sargeant, yn cael ei chynnal yn ei dref enedigol Cei Connah yn ddiweddarach heddiw.
Mae disgwyl y bydd gwleidyddion o bob plaid yno ond nid y Prif Weinidog. Mae Carwyn Jones eisoes wedi dweud na fydd yno gan ei fod yn dymuno “parchu dymuniadau’r teulu”.
Mae wedi cael ei feirniadu’n llym am y ffordd yr oedd wedi trin honiadau am ymddygiad rhywiol amhriodol yn erbyn Carl Sargeant ac fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i hynny.
‘Dathlu ei fywyd’
Fe ddaethpwyd o hyd i gorff yr Aelod Cynulliad lleol ddechrau mis Tachwedd ychydig ddyddiau wedi iddo golli ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant.
Roedd hefyd wedi’i wahardd tros dro o’r Blaid Lafur yn sgil honiadau ei fod wedi cyffwrdd yn amhriodol â nifer o ferched a’r gred yw ei fod wedi lladd ei hun.
Yn ôl teulu Carl Sargeant, nod yr angladd yw i “ddathlu” ei fywyd ac maen nhw wedi gofyn i bobol wisgo dillad lliwgar, fel y crysau yr oedd AS Alyn a Glannau Dyfrdwy yn hoff ohonyn nhw.