Mae adroddiad newydd yn dangos bod heddluoedd Cymru yn cael problemau wrth ddefnyddio gwasanaeth cenedlaethol, NPAS, i ateb galwadau yn yr awyr.

Yn ôl adroddiad Arolygiaeth yr Heddlu a Gwasanaethau Brys, mae’r gwasanaeth y mae NPAS yn ei roi yn “anghyson” ac mai rhai o heddluoedd Cymru sy’n derbyn y gwasanaeth gwaethaf.

Mae NPAS yn wasanaeth hedfan canolog i heddluoedd Cymru a Lloegr a gafodd ei sefydlu yn 2012 i gymryd lle’r broses arferol o heddluoedd yn defnyddio eu hofrenyddion eu hunain.

Dyfed-Powys yw’r gwaethaf

Mae’r adroddiad yn dangos Heddlu Dyfed Powys gyda’r ail gwaethaf yng Nghymru a Lloegr wrth ddefnyddio’r gwasanaeth, gydag ymatebion i alwadau yn cymryd dros 50 munud.

Heddlu Llundain a dderbyniodd y gwasanaeth gorau gyda’r ymatebion cyflymaf o ychydig dros 10 munud a hanner ar gyfartaledd.

O’r 43 o heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, dim ond saith heddlu gafodd amser ymateb o lai na 20 munud, ac roedd 15 o heddluoedd yn wynebu amseroedd yn hirach na 30 munud.

Talu

Mae’r heddluoedd yn gorfod talu am wasanaeth NPAS ac yn ôl yr adroddiad, roedd Heddlu Dyfed Powys yn gorfod talu mwy na dwbwl y cyfartaledd yn ôl y pen o’r boblogaeth.

Yn 2016, fe wnaeth Heddlu Gwent ddefnyddio NPAS bron cymaint â Heddlu Gogledd Cymru, ond fe dalodd Gwent lai fesul y pen o’r boblogaeth a derbyn gwasanaeth gwell.

Fe wnaeth Heddlu Swydd Lincoln wario 0.04% o’i wariant blynyddol ar wasanaethau NPAS, ond i Heddlu Dyfed Powys, roedd hyn 20 waith yn fwy, ar 0.85%.

Heddluoedd Cymru – NPAS yn “wasanaeth gwerthfawr”

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi ymateb drwy ddweud ei bod wedi “cael budd ariannol” o ddefnyddio’r gwasanaeth cenedlaethol.

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn cael gwasanaeth cymorth o’r awyr gan NPAS fel rhan o’r cydweithio cenedlaethol, cyn hynny roedd gennym ni ein hofrennydd oedd â chyfyngiadau,” meddai llefarydd.

Ychwanegodd y byddai effeithlonrwydd y gwasanaeth yn cael ei adolygu gan yr heddlu ac y bydd yn parhau i gydweithio gyda NPAS i ddefnyddio’r “adnodd gwerthfawr mewn ardal wledig.”

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod nhw hefyd yn “dibynnu ar NPAS am y cymorth gweithredol gwerthfawr maen nhw’n ei roi”.

“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’n cydweithwyr yn NPAS, yn lleol yn ei safle ym Mhenarlâg ac yn genedlaethol i sicrhau bod cymunedau Gogledd Cymru yn cael y gwasanaeth gorau posib,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd, Neill Anderson.

“Fel heddlu, rydym ni hefyd wedi buddsoddi mewn technoleg ddrôn newydd yn ddiweddar sy’n datblygu ein gallu gweithredol yn y maes hwn.”

Doedd Heddlu De Cymru na Heddlu Gwent ddim am gynnig sylw am mai beirniadu NPAS y mae’r adroddiad.