Fe fydd y Cynulliad yn trafod insiwleiddio waliau ceudod mewn cyfarfod y prynhawn yma – mater sydd wedi’i alw’n “sgandal” gan Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams.

Fe fydd yr Aelodau Cynulliad Mike Hedges, David Melding, Simon Thomas a Dawn Bowden yn cyflwyno cynnig trawsbleidiol yn galw ar y Cynulliad i gydnabod fod insiwleiddio waliau ceudod yn “ffordd gost effeithiol o leihau biliau tanwydd” ac yn gallu “lleihau allyriadau carbon a thlodi tanwydd”.

Dywed y pedwar fod “lleiafrif sylweddol o osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw’n cydymffurfio â safonau gwaith da”, gan ychwanegu “bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a’r iawndal yn aml yn annigonol neu’n amhosibl ei gael”.

Fe fyddan nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth Prydain ac asiantaethau “i ddarparu iawndal priodol ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir” ac i “gryfhau’r prosesau ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol”.

Mae’r cynnig wedi’i gefnogi gan Mick Antoniw, Russell George a Sian Gwenllian.