Mae partner Tracy Kearns o Fae Cinmel wedi’i gael yn euog o’i dynladdiad a’i garcharu am 13 o flynyddoedd.
Roedd Anthony Bird, 48, wedi darganfod ei bod hi’n cael perthynas â dyn arall, ac fe wnaeth ei thagu i farwolaeth.
Rhoddodd yr adeiladwr a barman ei chorff mewn tŷ pen coeden yn eu cartref cyn ei amgylchynu mewn plastig a’i symud oddi yno mewn trelar.
Cafwyd e’n ddieuog o’i llofruddio ond fe ddaeth y rheithgor i’r casgliad ei fod e wedi colli gafael arno’i hun ac wedi ei lladd gan achosi mwy na 40 o anafiadau iddi.
Roedd e wedi dadlau ar ôl i’r heddlu ddarganfod y corff ei fod e’n ceisio’i amddiffyn ei hun yn ystod ffrae ar ôl iddi ei fygwth â siswrn.
Ond doedd e ddim yn ymddangos yn flin am yr hyn yr oedd e wedi’i wneud, meddai’r barnwr.