Mae tystiolaeth newydd “gredadwy” wedi dod i’r fei a allai gysylltu Levi Bellfield, llofrudd Milly Dowler, â llofruddiaethau teulu Josie Russell.

Dyna gred cyfreithwyr Michael Stone, y dyn sydd wedi’i garcharu am oes am lofruddiaeth Lin Russell a’i merch Megan – mam a chwaer Josie, sydd bellach wedi ymgartrefu ac yn gweithio fel arlunydd yn y gogledd.

Cafwyd Michael Stone yn euog o’r llofruddiaethau yn Swydd Gaint yn 1996 yn dilyn ymosodiad lle cafodd Josie anafiadau difrifol i’w phen.

Fe’i cafwyd yn euog yn 1998, ac fe benderfynwyd yn 2006 y dylai e dreulio o leiaf 25 o flynyddoedd dan glo.

Daeth apêl yn 2001 ac fe enillodd y tro hwnnw, ond fe gafwyd e’n euog mewn ail achos yn Nottingham y flwyddyn honno.

Michael Stone yn mynnu o’r dechrau

Ond mae Michael Stone yn mynnu ers y dechrau’n deg nad oedd e’n gyfrifol, ac mae cyfreithwyr ar ei ran bellach o’r farn mai Levi Bellfield, sydd yn y carchar gyda Michael Stone, oedd yn gyfrifol.

Mae Levi Bellfield wedi’i garcharu am lofruddio tair o ferched  ac fe ddaeth pob ymchwiliad arall yn ei erbyn i ben y llynedd, wrth i Heddlu Llundain ddweud nad oedd rhagor o dystiolaeth yn ei erbyn o unrhyw droseddau eraill.

Yn ôl cyfreithwyr Michael Stone, dyma’r achos mwyaf o’r “camwedd mwyaf ers y Birmingham Six”, gan nad oedd unrhyw dystiolaeth fforensig yn ei erbyn.

Milly Dowler

Mae Levi Bellfield, sydd bellach yn ei alw ei hun yn Yusuf Rahim, dan glo am oes am lofruddio Milly Dowler yn 2002 a dwy ferch arall.

Cafodd ei ddedfrydu yn 2011 tra ei fod e yn y carchar am lofruddio Amelie Delagrange a Marsha McDonnell, ac am geisio llofruddio Kate Sheedy.