Mae NSPCC Cymru wedi galw am newid cyfraith er mwyn sicrhau bod plant wedi’u diogelu rhag oedolion sydd yn gofalu amdanyn nhw.

Ar hyn o bryd mae oedolion sydd yn gofalu am blant ym meysydd addysg, gwaith ieuenctid a gofal yn atebol i gyfreithiau ‘Oedolion sy’n gofalu am Blant’.

Ond mae’r elusen am weld y cyfreithiau yn cael eu hehangu fel bod pob oedolyn sydd yn gweithio â phlant yn rheolaidd – gan gynnwys ffigyrau crefyddol – yn atebol.

Mae galwad yr elusen yn cyd-daro â chyhoeddiad ffigurau sy’n dangos bod troseddau rhyw sydd yn cael eu cyflawni gan oedolion sy’n gofalu am blant, wedi cynyddu 80% ers 2014.

“Anodd credu”

“Mae’n anodd credu bod y gyfraith yn diogelu pobol ifanc rhag cael eu hudo er dibenion rhyw yn y dosbarth, ond nid ar y cae chwarae neu ar lwyfan,” meddai Prif Weithredwr NSPCC, Peter Wanless.

“Mae ehangu cyfreithiau ‘Oedolion sy’n gofalu am Blant’ i hyfforddwyr chwaraeon yn gam pwysig i’r cyfeiriad iawn, ac mi fydd yn helpu amddiffyn mwy o blant rhag y math yma o gamdriniaeth.”

“Ond, wnawn ni golli cyfle os wnawn ni stopio fan yna. Rhaid i’r Llywodraeth newid y gyfraith i amddiffyn plant rhag oedolion sy’n defnyddio eu hawdurdod i gam-drin.”