Mae’r theatr a’r ganolfan gynadledda yn nhref arfordirol Llandudno wedi sicrhau buddsoddiad o £2.8m i’w datblygu’n “ganolfan digwyddiadau busnes”.
Daw’r arian gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd gyda’r bwriad o ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal.
Ym mis Mai 2018 bydd y gwaith o ailgynllunio’r adeilad yn dechrau gyda’r bwriad o’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn gyda’r bwriad o greu lle “mwy effeithlon” i gynnal sioeau a digwyddiadau.
Denu digwyddiadau busnes
Mae Venue Cymru yn cynnal mwy na 800 o gynadleddau a digwyddiadau bob blwyddyn ac yn ôl Dafydd Elis-Tomas, mae potensial i ddenu digwyddiadau a chyfarfodydd “Prydeinig a rhyngwladol” i ogledd Cymru.
“Dw i’n croesawu’r buddsoddiad hwn yn Venue Cymru, sy’n cydnabod mor bwysig yw’r ganolfan i’r sector digwyddiadau busnes yn y gogledd,” meddai Gweinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru.
“Mae gan Gymru hanes gwych o gynnal llawer o ddigwyddiadau mwyaf y byd,” meddai wedyn.
“Rydyn ni’n edrych rŵan at adeiladu ar ein profiad i ddenu digwyddiadau busnes blaenllaw i’n gwlad.”