Mae pleidlais yn cael ei chynnal yn y Senedd yfory (Tachwedd 29) lle bydd Aelodau Cynulliad yn penderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad i’r honiadau o fwlio o fewn rhengoedd uchaf Llywodraeth Cymru.
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw ar y Prif Weinidog i beidio â phleidleisio ei hun.
“Mae’r honiadau hyn yn rhai difrifol iawn, a dyna pam rydyn ni eisiau i Aelodau Cynulliad o bob plaid sefydlu ymchwiliad annibynnol i fynd i’r afael â nhw,” meddai Andrew RT Davies.
“Fyddai hi ddim yn dderbyniol i’r Prif Weinidog bleidleisio yn y ddadl am ei ymddygiad ei hun,” meddai wedyn.
Mae’r honiadau’n codi yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant gyda’r cyn-Weinidog Addysg, Leighton Andrews, yn disgrifio “awyrgylch wenwynig” y llywodraeth a Steve Jones, a fu’n ymgynghorydd arbenigol i Carwyn Jones, yn atgyfnerthu’r sylwadau hynny.
Ymchwiliad annibynnol
Yn y cyfamser, mae Carwyn Jones wedi galw am ymchwiliad annibynnol i’r honiadau hyn gan ei gyfeirio at James Hamilton, Ymgynghorydd Annibynnol i Lywodraeth Yr Alban.
Mae hefyd wedi galw am system annibynnol newydd i oruchwylio’r Cod Gweinidogol.