Mae’n bosib bydd sw yn ne Ceredigion – a fu ynghanol  helynt ar ôl i lyncs fynd ar ffo rai wythnosau yn ôl – yn colli deg o’u hanifeiliaid.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyflwyno cyfres o amodau trwydded arfaethedig i’r Wild Animal Kingdom yn Borth – gan ddisgwyl ymateb o fewn 28 diwrnod.

Mae’n dilyn adroddiad  gan ymarferydd milfeddygol sŵolegol arbenigol a gafodd eu penodi gan y Cyngor.

Un o’r amodau arfaethedig sydd wedi ei gyflwyno i’r sw – sydd yn gofalu am 250 o anifeiliaid i gyd – yw cyfyngu ar eu gallu i gadw anifeiliaid peryglus Categori 1.

Mi fyddai cydymffurfio â’r amodau trwydded yn golygu y byddai’n rhaid i berchnogion y sw gael gwared ar eu llewod, llewpard, crocodeiliaid a’r tair lyncs sydd ganddyn nhw yn weddill.

“Lloches olaf”

“Mae yna broses apêl ar droed ar hyn o bryd,” meddai perchennog y sw, Dean Tweedy, wrth golwg360.

“I lawer o anifeiliaid dyma eu lloches olaf. Maen nhw yma oherwydd doedd ganddyn nhw unlle arall i fynd. Rydym ni yn y broses o adeiladu cewyll newydd, ond bydd hynna’n cymryd amser.”

“Dw i’n gobeithio gwneith [y Cyngor] weld sens. Rydym yn darparu mwy o hyfforddiant [i staff] ac mae mwy o brotocolau mewn lle. Mae’r [protocolau] bob tro wedi bod yna, ond methon nhw gyda’r lyncs.”

Bydd y sw yn ail agor i’r cyhoedd ar ddydd Sadwrn (Rhagfyr 2) yn ôl y disgwyl.

Dywed y Cyngor y bydd “yn monitro er mwyn sicrhau bod yr amserlenni a nodir yn y drwydded ddiwygiedig yn cael eu bodloni.”