Yn dilyn lansiad arolwg gan Gyngor Sir Gâr heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnig “ffordd arall o edrych” ar faterion gwledig.

Rhan o broses ymgynghori yw’r arolwg fydd yn rhoi cyfle i bobol cefn gwlad i leisio’u barn am heriau sy’n eu hwynebu, ac i gynnig gwelliannau posib.

Er bod y mudiad iaith yn croesawu’r lansiad, maen nhw’n awyddus bod pobol yn cynnig “atebion” i heriau cefn gwlad yn hytrach na rhestru “problemau”.

Ac un o’r atebion posib yma, yn eu barn nhw, yw’r ‘strategaeth cylchoedd consentrig’ – sef sustem o ymdrin â lefelau gwahanol cefn gwlad: trefi, pentrefi, y wlad.

Yn ôl Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, mae gan bob ‘lefel’ wledig rhywbeth i gynnig, a phwrpas y sustem yw ceisio amlygu diffygion a chryfderau pob haen.

Lefelau cefn gwlad

“Maen [pob lefel] yn gallu cynnig gwasanaethau gwahanol ac mae angen i ni weld cryfder y gwasanaethau yna,” meddai Bethan Williams wrth golwg360. “A beth maen nhw i gyd yn cynnig.

“Yn hytrach na gweld beth sydd ddim ar gael, gweld beth sydd ar gael yna a gweld be mae pob pentref a thref yn medru cynnig. A, sut maen nhw’n cydweithio â’i gilydd.

“Mae gyda phob pentref a thref fach, rhywbeth i gynnig. Ac mae eisiau gwneud yn fawr o hynna. A gweld sut mae hynna’n medru bwydo mewn i wasanaethau yn fwy. Beth sydd ar goll a beth sydd ar gael.”