Mae trafferthion trafnidiaeth ddiweddar yn ardal Biwmares yn dystiolaeth bod Bae Caerdydd wedi “anghofio” am yr ardal, yn ôl cynghorydd tref.

Mae’r A545 rhwng Biwmares a Phorthaethwy wedi bod ynghau ers Tachwedd 23 ar ôl i  law trwm achosi tirlithriad gan ddifrodi’r heol.

Yn ôl y Cynghorydd a Warden Llifogydd, Jason Zalot, mae’r ardal yn wynebu bygythiadau parhaus gan dirlithriadau – yn rhannol oherwydd cronfa ddŵr leol.

Ac yn sgil yr achos diweddaraf a gyda phobol leol ar ben eu tennyn, mae’r cynghorydd yn dweud ei fod yn hen bryd i Lywodraeth Cymru dalu sylw.

Gwythïen Ynys Môn

“Mae wedi cyrraedd pwynt lle mae’n rhaid i Aelodau’r Cynulliad ddod fyny i fan hyn, i weld yr hyn yr ydym ni wedi bod yn sôn,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna rannau o’r heol lle rydych chi ond yn gweld pridd. Un o brif wythiennau Ynys Môn yn gorwedd ar bridd ger clogwyn.

“Mae yna deimlad i fyny yn fan hyn – nid teimlad cryf ond teimlad ymysg rhan fwyaf o bobol fan hyn – pe bai hyn wedi digwydd i’r de [ger yr] M4 bydden ni ddim yn wynebu’r broblem yma.

“Ac rydym wedi cael ein hanghofio, i ryw raddau, fyny yn fan hyn. Rydym ni angen presenoldeb gweledol gan Lywodraeth Cymru.”

“Gwrthod”

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi ategu galw’r cynghorydd lleol gan ddweud fod Llywodraeth Cymru wedi “gwrthod” a mynd i’r afael â’r ffordd.

“Rwyf wedi gofyn ddwywaith o’r blaen i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth ariannol i fuddsoddi yng ngwytnwch y ffordd, oherwydd pryderon am dirlithriad o’r union fath yma, ond hyd yma maent wedi gwrthod gan ddadlau mai ffordd leol yw hi, sydd yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol,” meddai wrth golwg360.

“Rŵan bod tirlithriad wedi digwydd sy’n peryglu seiliau’r ffordd, mae prawf gennym o’r bygythiad iddi, ac yn ogystal â cheisio am gymorth i drwsio’r rhan benodol yma, rwyf yn eiddgar hefyd i weld cymorth ariannol i gryfhau gweddill y ffordd.”

Barod i drafod

“Er mai cyfrifoldeb Cyngor Môn yw’r A545, yr ydym yn fodlon cwrdd â’r awdurdod lleol i drafod ffordd ymlaen ar wella seilwaith a gwydnwch y ffordd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.