Mae cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn cwrdd heddiw i drafod dyfodol ysgolion cynradd ardal Aberteifi.

Mae chwe chynnig wedi dod i law yn dilyn adolygiad o ddarpariaeth addysg gynradd yr ardal.

Un o’r opsiynau yw cau pedair ysgol, sef Beulah, Cenarth, Trewen a Llechryd, a chreu ysgol ardal newydd ar un o’r safleoedd hynny neu ar safle newydd.

Cynigion eraill

Mae disgwyl i’r cabinet ystyried y cynigion heddiw gan gymeradwyo un neu fwy o’r dewisiadau.

Mae’r opsiynau eraill yn cynnwys parhau â’r trefniant presennol; cau ysgol Beulah neu gau ysgol Trewen a lleihau’r nifer o ysgolion yn y ffederasiwn.

Cynnig arall yw chwalu’r ffederasiwn presennol a chau ysgol Beulah a Threwen. A’r opsiwn arall yw cau ysgol Beulah, Trewen a Chenarth a chreu ysgol ardal newydd ar un o’r safleoedd hynny.

Mae wyth ysgol yn cael eu hystyried yn rhan o’r adroddiad hwn gan gynnwys Aberporth, Beulah, Aberteifi, Cenarth, Llechryd, Penparc, Ysgol T Llew Jones a Threwen.