Mae Cabinet Cyngor Sir Benfro yn ystyried dau opsiwn i’r dreth gyngor ynglŷn â chynyddu’r dreth cyngor wrth i’r awdurdod lleol wynebu diffyg o £3.5m yn eu cyllideb y flwyddyn nesaf.

Yn dilyn cyfarfod heddiw (dydd Llun), fe fydd angen i’r Cyngor llawn benderfynu ar ddau opsiwn posib, sef cynnydd o 12.5% i’r dreth gyngor, neu gynnydd o  5% ond sy’n cynnwys toriadau i wasanaethau cyhoeddus.

Daw’r penderfyniad hwn yn sgil pleidlais a gafodd ei chynnal gan y Cyngor ddechrau mis Tachwedd ynglŷn â lefel y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Yn y bleidlais honno, fe wnaeth bron i hanner y rheiny a bleidleisiodd gefnogi cynnydd o 10% i’r dreth, tra bo un rhan o bump yn ffafrio gweld cynnydd o 3%.

 

Y dreth gyngor isaf yng Nghymru

Roedd Bob Kilmister, yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gyllid, eisoes wedi dweud bod angen ystyried cynnydd o hyd at 10%.

 

Ar hyn o bryd, mae treth gyngor Band D yng Nghymru yn £1,420 ar gyfartaledd yn 2017, ond yn Sir Benfro, mae’r dreth hon yn £1,128 – yr isaf yng Nghymru.

 

Mae disgwyl y bydd cyllideb ddrafft yr awdurdod yn cael ei chyhoeddi ar 14 Rhagfyr, ac fe fydd penderfyniad terfynol ar y mater yn cael ei wneud fis Mawrth.