Mae perchnogion Sŵ  Borth yn bwriadu ailagor y safle i’r cyhoedd, a hynny ychydig dros fis ers i lyncs ddianc o’r safle ac un arall farw trwy ddamwain.

 

Mae’r sw wedi bod  ynghau ers mis er mwyn canolbwyntio ar waith cynnal a chadw, ac wrth i archwiliad gael ei gynnal gan Gyngor Ceredigion.

Bwriad y perchnogion yw ailagor y safle ddydd Sadwrn (2 Rhagfyr).

 

Yn ddiweddar, mae’r sw wedi cael ei feirniadu’n hallt wedi i’r lyncs, Lillith, ddianc o’r safle, ac un arall gael ei dagu i farwolaeth drwy geisio ei symud.

 

Mae deiseb ar-lein gan Ymddiriedolaeth Lyncs y Deyrnas Unedig wedi galw am gau’r sw wedi i dros 12,000 o bobol ei harwyddo.

 

Ymchwilio gyda “chrib mân”

 

Er hyn, mewn datganiad ar wefan gymdeithasol Facebook, mae perchnogion yn mynnu bod tîm o archwilwyr wedi treulio pedwar diwrnod yn archwilio’r safle “gyda chrib mân”, ac y bydd ei staff yn ymgymryd â chynllun hyfforddiant a fydd yn eu gweld yn treulio cyfnodau o brofiad gwaith mewn swiau mwy eu maint ledled y Deyrnas Unedig.

 

Maen nhw hefyd wedi derbyn cymorth gan “fyddin wych o wirfoddolwyr” sydd wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw, gan ddod â’r sw i fyny at safonau modern.

 

“Y peth da yw bod y cyfnod hwn o fod ynghau wedi ein galluogi i weld pa bethau sydd wir angen mynd i’r afael a nhw, ac i greu amserlen waith.

 

“Bydd y gwaith cynnal a chadw’n parhau trwy weddill yr wythnos hon, ac os bydd popeth yn mynd yn dda, fe fyddwn yn ailagor i’r cyhoedd ddydd Sadwrn nesaf, 2 Rhagfyr.”