Ar ddiwrnod cyntaf y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni, mae Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi galw ar y diwydiant amaeth i ganolbwyntio ar droi heriau Brexit yn “gyfleoedd”.

 

Ym more brecwast Hybu Cig Cymru yn y Ffair Aeaf, cyhoeddodd Lesley Griffiths y byddai nifer o fentrau pwysig sydd o dan nawdd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i’r diwydiant yn wyneb y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit.

 

Yn eu plith mae’r system newydd ar gyfer mapio ansawdd tir Cymru, a fydd yn helpu defnyddwyr tir, cynllunwyr a Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â sut y dylai tir amaethyddol yng Nghymru gael ei ddefnyddio.

 

Cyhoeddodd hefyd y byddai 91% o’r taliadau o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2017 yn cael eu talu i ffermwyr ar ddydd Gwener (1 Rhagfyr).

 

Bydd hyn yn golygu bod dros £201 miliwn yn cael ei dalu i gyfrifon 14,111 o fusnesau fferm yng Nghymru ar y diwrnod hwn, sef y diwrnod cyntaf y bydd taliadau’n cael eu gwneud o dan reolau Ewrop.

 

Brexit heb gytundeb yn “beryglus iawn”

Ychwanegodd Lesley Griffiths y byddai Brexit yn dod a newidiadau “mawr” a “hir dymor” i’r diwydiant, gyda’r posibilrwydd o fethu â chael cytundeb cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn “beryglus iawn” i’r sectorau hynny sy’n ddibynnol ar allforio i’r Undeb.

 

“Mae’n rhaid i’r diwydiant a busnesau fferm unigol ganolbwyntio ar droi heriau yn gyfleoedd.

 

“Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae mewn llunio’r diwydiant wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae angen arnom ffermwyr sy’n ddewr a chreadigol, ac ar agor i syniadau ac arferion newydd.”

 

Heddiw yw diwrnod cyntaf y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, ac fe fydd yn parhau hyd nes yfory (28 Tachwedd).