Mae elusen wedi rhybuddio bod pobol ag anableddau dysgu yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith yng Nghymru oherwydd diffyg dealltwriaeth gan gyflogwyr.

Mae’n debyg bod tua 70,000 o bobol yng Nghymru ag anableddau dysgu, gyda dim ond 14,000 o’r rhain yn hysbys i Awdurdodau Lleol.

Ac yn ôl elusen Mencap Cymru, dim ond 6% o bobol sydd ag anableddau dysgu – ac sy’n ddigon hen i weithio – sydd yn gweithio am dâl.

“Manteision amlwg”

“Mae pobol ag anableddau dysgu yn tueddu i gymryd mwy o amser i ddysgu ac yn dibynnu’n fwy ar ddulliau â strwythur i ddatblygu sgiliau newydd,” meddai’r elusen.

“[Ond] mae sawl astudiaeth wedi dangos bod manteision amlwg i fusnesau sy’n cyflogi pobol ag anableddau dysgu, gan gynnwys codi hwyliau staff a gwella delwedd gyhoeddus eich cwmni.”