Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu ei gwaith dramor er mwyn rhoi hwb i fasnach a mewnfuddsoddiad yn dilyn Brexit.

Fel rhan o’r cynllun mi fydd swyddfeydd yn cael eu hagor yng Nghanada, Ffrainc, yr Almaen a Qatar y flwyddyn nesaf, gyda’r nod o ddiogelu marchnadoedd a “hyrwyddo Cymru i’r byd”.

Mae’n debyg mai’r Almaen a Ffrainc yw dwy farchnad fwyaf Cymru yn Ewrop o ran masnachu a buddsoddi, gyda chwarter o holl allforion Cymru yn mynd i’r Almaen.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes â swyddfeydd tramor mewn sawl dinas ryngwladol gan gynnwys Efrog Newydd, Mumbai, Brwsel a Tokyo.

Heriau a chyfleoedd

“Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at heriau, yn ogystal â chyfleoedd,” bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn dweud mewn araith nos Lun (Tachwedd 27).

“Dyna pam rydyn ni’n cynyddu ein presenoldeb yn Ewrop ac ar draws y byd, fel bod modd i ni gwrdd â buddsoddwyr newydd a’u denu i Gymru, a gwerthu cynnyrch Cymreig i gwsmeriaid dramor.”

“Ddim yn gwireddu potensial”

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r cynlluniau gan alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno arbenigwyr masnach newydd yn lle.

Eu dadl yw y byddai’r rhain yn medru “tynnu ar arbenigedd y gymuned busnes” er mwyn helpu busnesau o Gymru i “dyfu a llwyddo yn rhyngwladol”.

“Rydym angen mynd i’r afael â hybu masnach tramor trwy ddulliau mwy dynamig,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar yr Economi, Russell George. “A dydy swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru ddim yn gwireddu eu potensial.”

“Rhaid i ni fod yn graffach wrth geisio diogelu swyddi, masnach a buddsoddiad mewn marchnadoedd newydd wedi Brexit – dyna pam rydym ni wedi galw am gamau tuag at Genhadon Masnach.”