Mae neges ar dudalen Facebook Cyfeillion Y Cymro yn awgrymu eu bod nhw’n disgwyl clywed yfory a fu eu cais am grant er mwyn atgyfodi’r papur wedi bod yn llwyddiannus.

Roedd panel Cyngor Llyfrau Cymru yn cyfarfod i ystyried y cais yr wythnos ddiwethaf.

Ddiwedd Medi, roedd y wefan hon yn adrodd fel yr oedd y grwp yn bwriadu cyflwyno rhifyn enghreifftiol o’r papur i’r Cyngor, ar gyfer ei ystyried.

Cyn hynny, fe fuon nhw’n casglu arian ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern.

Datganiad

Yn eu neges ddiweddaraf, dywedodd Cyfeillion Y Cymro: “…a gallwn ni gefnogi hashnod #YCymro os daw datganiad cyhoeddus i’r amlwg yfory OGyDda. Diolch.”

Mewn neges arall ar Twitter, dywedodd y criw eu bod yn “paratoi datganiad at sylw’r wasg Gymraeg”.