Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau yn dilyn achos o daro a ffoi yn Wrecsam.
Cafodd un person anafiadau difrifol ar Ffordd Poplar y dref ddydd Mercher, ac mae’n dal yn yr ysbyty yn Stoke.
Cafodd y sawl oedd yn gyfrifol ei gadw yn y ddalfa.
Dydy’r union gyhuddiadau ddim wedi cael eu datgelu gan yr heddlu.