Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad arfog mewn siop fetio yn Abertawe.
Cafodd staff yn y siop ar Heol Townhill y ddinas eu bygwth â morthwyl wrth i ddau ddyn ddwyn £5,000.
Roedd dau gwsmer yn siop ar y pryd, ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad â nhw.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.