Cymru 18–33 Seland Newydd
Seland Newydd aeth â hi wrth i Gymru groesawu’r Crysau Duon i’r stadiwm cenedlaethol yng Nghaeryddd nos Sadwrn.
Rheolodd Cymru gyfnodau helaeth o’r gêm, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, ond croesodd y tîm gorau yn y byd am bum cais i gyd wrth ennill yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd Cymru’n dda ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Leigh Halfpenny wedi naw munud.
Ond er i’r mwyafrif helaeth o’r chwarter awr cyntaf gael ei chwarae yn hanner Seland Newydd, yr ymwelwyr a gafodd gais cyntaf y gêm, Waisake Naholo yn gorffen yn dda yn y gornel dde wedi pas hir Aaron Smith.
Caeodd Halfpenny’r bwlch i bwynt gyda chic gosb arall wrth i Gymru barhau i reoli’r tir a’r meddiant.
Ond roedd Seland Newydd yn ymddangos yn beryglus bob tro yr oeddynt yn cael y bêl ac fe ddaeth ail gais i Noholo yn yr un gornel ddau funud cyn yr egwyl.
Roedd digon o amser ar ôl i Gymru gau’r bwlch i bwynt unwaith eto gyda symudiad olaf yr hanner, cais i Scott Williams wedi bylchiad Hallam Amos trwy’r canol.
Ail Hanner
Roedd Seland Newydd yn well wedi’r egwyl a dechreuodd y gêm fynd o afael Cymru gyda dau gais i’r ymwelwyr mewn cyfnod o bum munud hanner ffordd trwy’r hanner.
Daeth y cyntaf i Anton Liernert-Brown wedi dadlwythiad Rieko Ioane, a’r ail i Ioane ei hunan wedi rhyng-gipiad ar y llinell hanner.
Wnaeth Cymru ddim rhoi’r ffidl yn y to a rhoddodd cais Gareth Davies lygedyn o obaith iddynt ddeuddeg munud o’r diwedd wedi i gapten y Crysau Duon, Sam Whitelock, gael ei anfon i’r gell gosb.
Y pedwar dyn ar ddeg a gafodd y sgôr nesaf serch hynny, wrth i Ioane groesi am ei ail gais ef a phumed ei dîm gyda symudiad yn syth o’r cae ymarfer. Rhoddodd trosiad Beauden Barrett dair sgôr rhwng y timau unwaith eto ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel.
.
Cymru
Ceisiau: Scott Williams 40’, Greth Davies 69’
Trosiad: Leigh Halfpenny 71’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 9’, 32’
.
Seland Newydd
Ceisiau: Waisake Naholo 14’, 38’, Anton Liernert-Brown 57’, Rieko Ioane 62’, 74’
Trosiadau: Beauden Barrett 15’, 57’, 64’, 75’
Cerdyn Melyn: Sam Whitelock 68’