Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio ei bod yn debygol o rewi dros nos yn y rhan fwyaf o Gymru heno.

Mae’r rhybudd melyn mewn grym ym mhobman heblaw ardaloedd arfordirol Cymru, ac mae’n ymestyn dros ogledd-orllewin Lloegr, a’r rhan fwyaf o’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Mae disgwyl rhagor o law, eirlaw a chenllysg rhwng 8.00 heno a 10.00 fore yfory, gyda rhywfaint o eira’n debygol mewn ardaloedd mynyddig.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, y pryder yw y bydd y cawodydd yn ddigon trwm i olchi’r halen oddi ar rai ffyrdd, gan gynyddu’r risg o rew.

Mae disgwyl i’r tywydd oer barhau am y pythefnos nesaf – er bod diwrnod ychydig yn fwynach yn cael ei ddarogan ar gyfer dydd Llun.