Oni bai bod cynllun wrth gefn ar gyfer parcio ar ôl y glaw trwm ar gychwyn Eisteddfod Genedlaethol Môn yr haf yma, ni fyddai’r ŵyl wedi gallu parhau.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg mewn adroddiad a gafodd ei gyflwyno i Gyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth heddiw.

Roedd pythefnos o law wedi disgyn o fewn ychydig oriau yn yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘dilyw’ y pnawn Sul ar ddechrau’r wythnos, gan achosi anhrefn llwyr yn y meysydd parcio.

Am weddill yr wythnos, fe fu’n rhaid gweithredu gwasanaeth bysiau gwennol o faes awyr Mona ger Llangefni i’r Maes am weddill yr wythnos.

Yn dilyn beirniadaeth fod Maes yr Eisteddfod wedi’i leoli ar dir rhy wlyb, mae’r adroddiad yn argymell ceisio mwy o wybodaeth leol a chyngor am ansawdd tir o hyn ymlaen, gan gynnwys sicrhau cyngor gan beiriannydd sifil.

Diffyg darpariaeth i’r anabl

Mae’r adroddiad yn cydnabod hefyd nad oedd y ddarpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl yn ddigonol yn ystod yr Eisteddfod.

Roedd diffyg gwasanaeth bws i’r Eisteddfod, y fynedfa’n bell o’r ffordd, a maint y cerrig ar y llwybrau yn ei gwneud yn anhylaw i gadeiriau olwyn.

Mae’n argymell rhoi lle amlycach i anghenion ymwelwyr anabl, a sicrhau bod y maes yn fwy hygyrch i Eisteddfodwyr anabl, bregus a hŷn yn y dyfodol.