Mae Cyngor Ynys Môn am geisio efelychu polisi Cyngor Gwynedd a gweithio yn fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at gyngor yr ynys i’w longyfarch am “weithredu’n flaengar”.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi annog mwy o siroedd y gorllewin i wneud yr un peth.

Mae’r polisi yn golygu bod staff yn cyfathrebu’n fewnol yn Gymraeg gyda’i gilydd ar fewnrwyd y Cyngor, bwletinau staff ac yn y blaen.

Mae Cyngor Gwynedd yn monitro sgiliau iaith ei staff yn flynyddol ac yn cydweithio gyda’i holl staff i’w helpu i “[g]yfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hyd at safon sy’n briodol”.

“Dw i’n meddwl bod o jyst yn dod yn rhan naturiol o gam nesaf o rediad y Cyngor,” meddai Llinos Medi Huws, arweinydd Cyngor Môn wrth golwg360.

“Dw i ddim yn siŵr iawn pam bod yna gymaint o sylw yn cael ei roi iddo fo achos rydan ni’n gweld o fel cam positif ymlaen ac mae’r staff i gyd yn dod efo ni i’w wneud o.

“Rydan ni’n cynnig cyrsiau a hyfforddiant, rydan ni wedi gweld amryw o staff yn dod o siroedd mwy Seisnigaidd atom ni ac maen nhw wedi derbyn yr hyder wrth fod ymysg yr iaith drwy’r adeg, wedyn mae’n dod yn rhan annatod o’u bywyd gwaith.”

Croeso

“Mae gwneud y Gymraeg yn iaith naturiol y gweithle’n gam hanfodol wrth i ni sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith. Rydyn ni’n canmol y Sir am weithredu’n flaengar,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

“Gyda Gwynedd eisoes wedi gwneud hyn, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Gymraeg yn dod yn brif iaith weinyddu siroedd y gorllewin, o Fôn i Gaerfyrddin. Bydd hyn yn trawsnewid rhagolygon y Gymraeg yn y siroedd hyn.”

“Rydyn ni’n hyderus y bydd y Llywodraeth yn fodlon buddsoddi’n helaeth yn y galwadau hyfforddi iaith fydd yn sail i lwyddiant y newid ieithyddol yma.”